Enghraifft o'r canlynol | carfan meddwl ![]() |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1980s ![]() |
Sylfaenydd | Raymond Williams ![]() |
Dull o drin damcaniaeth lenyddol ac astudiaethau diwylliannol yw materoliaeth ddiwylliannol sydd yn ystyried sut mae grymoedd economaidd a moddion cynhyrchu yn effeithio ar gynnyrch diwylliannol, er enghraifft gweithiau llenyddol. Datblygodd y mudiad hwn yn y 1980au ymhlith damcaniaethwyr llenyddol Gwledydd Prydain a oedd yn canolbwyntio ar seiliau materolaidd ffenomenau diwylliannol; tynna yn gryf ar waith y beirniad Marcsaidd Raymond Williams, a fathodd y term materoliaeth ddiwylliannol. Maent yn archwilio tystiolaeth destunol yn ogystal â phob math o dystiolaeth gyd-destunol mewn ymdrech i esbonio'r testun dan sylw fel gwrthrych faterol, un a gynhyrchwyd mewn amser penodol, a fel y'i brofir neu dreulir yn y presennol.[1]
Cychwynnodd materoliaeth ddiwylliannol drwy ymdrin â llên Lloegr yn yr 16g a'r 17g, yn enwedig gweithiau William Shakespeare.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search